2015 Rhif 29 (Cy. 2) (C. 2)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). 

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn i rym ar 16 Ionawr 2015—

(a)      adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(b)     adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);

(c)      adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(d)     adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);

(e)      adran 12 (ffioedd cofrestru);

(f)      adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);

(g)     adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;

(h)     adran 15 (athrawon addysg bellach);

(i)       adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);

(j)       adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;

(k)     adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(l)       adran 21 (sefydlu: dehongli);

(m)   adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(n)     adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);

(o)     adran 26 (swyddogaethau disgyblu);

(p)     adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);

(q)     adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);

(r)      adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(s)      adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(t)       adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(u)     adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);

(v)     adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);

(w)    adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);

(x)     adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);

(y)     adran 41 (dehongli Rhan 2);

(z)      rhes gyntaf a thrydedd res Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac

(aa)   Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).

Daw’r Gorchymyn hwn a’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2015—

(a)      adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)     adran 3 (nodau’r Cyngor);

(c)      adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);

(d)     adran 6 (cyfarwyddiadau);

(e)      adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);

(f)      adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)     adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);

(h)     adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);

(i)       adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)       adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);

(k)     adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);

(l)       adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);

(m)   adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);

(n)     adran 30 (gorchmynion atal dros dro);

(o)     adran 31 (gorchmynion gwahardd);

(p)     adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);

(q)     adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);

(r)      adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);

(s)      adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);

(t)       adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);

(u)     Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(v)     paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);

(w)    paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac

(x)     Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.

Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau arbed a throsiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a'r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

 

 

 

 

 

 

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1

18 Awst 2014

O.S. 2014/2162 (Cy. 211) (C. 97)

Adran 42

14 Gorffennaf 2014

O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Adran 43

1 Medi 2014

O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Adran 44

14 Gorffennaf 2014

O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Adran 48

(yn rhannol)

14 Gorffennaf 2014

O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Paragraffau 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5), 4, 5, 6, 7, 9(1), (2) a (3), a 12 o Atodlen 1

18 Awst 2014

O.S. 2014/2162 (Cy. 211) (C. 97)

Paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3

14 Gorffennaf 2014

O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)


2015 Rhif 29 (Cy. 2) (C. 2)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015

Gwnaed                                13 Ionawr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) a (5) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ionawr 2015

2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 16 Ionawr 2015—

(a)      adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(b)     adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);

(c)      adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(d)     adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);

(e)      adran 12 (ffioedd cofrestru);

(f)      adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);

(g)     adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;

(h)     adran 15 (athrawon addysg bellach);

(i)       adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);

(j)       adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;

(k)     adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(l)       adran 21 (sefydlu: dehongli);

(m)   adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(n)     adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);

(o)     adran 26 (swyddogaethau disgyblu);

(p)     adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);

(q)     adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);

(r)      adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(s)      adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(t)       adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(u)     adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);

(v)     adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);

(w)    adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);

(x)     adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);

(y)     adran 41 (dehongli Rhan 2);

(z)      rhes gyntaf a thrydedd res llinell Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac

(aa)   Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2015

3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 1 Ebrill 2015—

(a)      adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)     adran 3 (nodau’r Cyngor);

(c)      adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);

(d)     adran 6 (cyfarwyddiadau);

(e)      adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);

(f)      adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)     adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);

(h)     adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);

(i)       adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)       adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);

(k)     adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);

(l)       adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);

(m)   adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);

(n)     adran 30 (gorchmynion atal dros dro);

(o)     adran 31 (gorchmynion gwahardd);

(p)     adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);

(q)     adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);

(r)      adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);

(s)      adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);

(t)       adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);

(u)     Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(v)     paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);

(w)    paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac

(x)     Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002([2]).

Darpariaethau arbed a throsiannol

4.(1) Er gwaethaf cychwyn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2014—

(a)      mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000([3]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 33, 35, 36 a 37 o Ddeddf 2014;

(b)     mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000([4]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 10 a 13 o Ddeddf 2014;

(c)      mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001([5]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 26 ac 28 o Ddeddf 2014;

(d)     mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002([6]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 12 o Ddeddf 2014;

(e)      mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005([7]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 17 a 19 o Ddeddf 2014;

(f)      mae Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010([8]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2014; ac

(g)     mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011([9]) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 23 o Ddeddf 2014.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn y gorchmynion a’r rheoliadau a nodir ym mharagraff (1) i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at Gyngor y Gweithlu Addysg.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2015

 



([1])           2014 dccc 5.

([2])           2002 p. 32.

([3])           O.S. 2000/1941 (Cy. 139).

([4])           O.S. 2000/1979 (Cy. 140).

([5])           O.S. 2001/1424 (Cy. 99).

([6])           O.S. 2002/326 (Cy. 39).

([7])           O.S. 2005/1818 (Cy. 146).

([8])           O.S. 2010/2710 (Cy. 227).

([9])           O.S. 2011/2940 (Cy. 316).